EduAtlas

Teacher

at Penllwyn and Penrhyncoch Primary Schools, Aberystwyth, United Kingdom

Closes 30 NovNew

The following is an advert where the ability to communicate through the medium of Welsh and English is essential.

Ffederasiwn Ysgol Penrhyn-coch ac Ysgol Penllwyn.

Dymuna’r Corff Llywodraethu benodi athro/athrawes frwdfrydig ac ymroddgar i ymuno â’n ffederasiwn llwyddiannus a chefnogol o fis Ionawr tan mis Gorffennaf.

Bydd y rôl yn cynnwys addysgu yn Nosbarth Derbyn Ysgol Penrhyn-coch ac mewn un dosbarth arall ar draws y ffederasiwn, gan gefnogi trefniadau sy’n sicrhau amser arweinyddiaeth ar gyfer aelodau’r uwch-dîm rheoli.

Rydym yn chwilio am ymarferydd rhagorol sy’n:

Meddu ar allu profedig i gyflwyno addysgu a dysgu o safon uchel ar draws yr ystod gynradd.

Read the full advert

Dangos disgwyliadau uchel ar gyfer cyflawniad a lles disgyblion.

Yn ymrwymedig i gydweithio fel rhan o dîm cryf ar draws y ddau safle ysgol.

Yn gallu meithrin perthnasoedd cadarnhaol gyda disgyblion, staff, rhieni a’r gymuned ehangach.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn:

Ysbrydoli disgyblion i gyflawni eu gorau mewn amgylchedd meithringar a chynhwysol.

Cyfrannu at y cwricwlwm ehangach a darpariaeth allgyrsiol y ffederasiwn.

Cymryd rhan weithredol ym mywyd y ffederasiwn a’i bartneriaethau cymunedol.

Byddai gallu chwarae’r piano neu gyfrannu at fywyd cerddorol yr ysgol yn fantais, ond nid yw’n hanfodol.

Rydym yn cynnig:

Cymuned ysgol gynnes a chefnogol.

Disgyblion brwdfrydig ac ymddwyn yn dda.

Cyfleoedd dysgu proffesiynol eang i gefnogi datblygiad gyrfa.

Ymrwymiad cryf i les staff a chydweithio.

Mae hon yn gyfle cyffrous i ymuno â ffederasiwn blaengar sy’n ymroddedig i ddarparu profiadau cyfoethog ac ysgogol i bob dysgwr.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Cysylltwch â ni

Croesewir unrhyw ymgeisydd i gysylltu â’r Pennaeth, Miss Catryn Lawrence, ar 01970 880277 am ragor o wybodaeth.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o’r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau’r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a’ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

More jobs at Penllwyn and Penrhyncoch Primary Schools

Details

Salary
£33,731 to £51,942 a year
Closing date
30 November 2026
Add the deadline to your calendar
Type of post
Teaching
First seen
23 November 2026
Apply on
careers.ceredigion.gov.uk
Listed by

Listed on EduAtlas, the largest worldwide record of live school vacancies. 198 similar posts in United Kingdom.

Penllwyn and Penrhyncoch Primary Schools: full school record · More vacancies in United Kingdom

More like this: Schools hiring in Aberystwyth · Schools hiring in United Kingdom